Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Opsiynau i’r rhai sy’n dychwelyd i waith

Gall dychwelyd i'r gwaith ar ôl seibiant fod yn frawychus. Gadewch i ni eich helpu gyda'r camau cyntaf.

Mae yna lawer o resymau pam fod pobl yn cymryd seibiant o'r gwaith, fel:

  • Amser i ffwrdd i fagu teulu
  • Cymryd cyfrifoldebau gofalu
  • Fel y gallant deithio neu fyw dramor
  • Ar ôl cyfnod o salwch

Beth bynnag fo'ch rhesymau, mae cynllunio ar gyfer dychwelyd i'r gwaith yn gyfle i adolygu eich sgiliau a chynyddu'ch hyder.


Beth yw fy opsiynau?

Gall rhai o'r opsiynau sydd ar gael i chi gynnwys:

  • Cael swydd
  • Ail hyfforddiant
  • Gwneud prentisiaeth
  • Hunangyflogaeth

Prif awgrymiadau i baratoi i ddychwelyd i'r gwaith

Ymchwiliwch i'ch cynlluniau gyrfa

Bydd angen i chi gynllunio ymlaen llaw i sicrhau eich bod chi'n barod i fynd i mewn i fyd gwaith. Hyd yn oed os ydych chi'n gwybod pa fath o swydd rydych chi am ei gwneud, mae'n bwysig ymchwilio i'r sgiliau, y cymwysterau, y cyflog posibl a'r cyflogwyr fel eich bod chi'n teimlo'n hyderus wrth wneud y cam nesaf.

  • Defnyddiwch y Cwis Paru Gyrfa i baru eich sgiliau a'ch diddordebau â gwahanol swyddi
  • Chwiliwch Gwybodaeth am Swyddi i weld pa sgiliau a chymwysterau sydd eu hangen ar gyfer gwahanol swyddi

Cysylltwch â Gyrfa Cymru i siarad â Chynghorydd Gyrfa ynglŷn â'ch opsiynau.

Bod yn ymwybodol o'ch sgiliau

Efallai y bydd pethau wedi newid yn y gweithle ers i chi weithio ddiwethaf felly bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgiliau sydd gennych neu efallai y bydd eu hangen arnoch i wneud cais am swyddi penodol. Edrychwch ar wahanol ddisgrifiadau swydd a nodi pa sgiliau sydd eu hangen. Rhai pethau i'w cofio:

  • Mae sgiliau bywyd sydd gennych yn sgiliau gwaith hefyd. Mae'r hyn rydych chi wedi'i wneud yn ystod eich seibiant o weithio yn golygu eich bod chi wedi ennill sgiliau a rhinweddau gwerthfawr sy’n ddefnyddiol i lawer o rolau, e.e. cynllunio, ariannu, cyfathrebu, gofalu, cymryd cyfrifoldeb, trefnu a mwy - Felly, meddyliwch am yr hyn yr ydych yn ei wneud o ddydd i ddydd a'r sgiliau yr ydych yn eu hennill
  • Mae gennych sgiliau trosglwyddadwy. Os ydych chi wedi gweithio yn y gorffennol, mae'r sgiliau a enillwyd yn dal yn amhrisiadwy i unrhyw swydd y gallech wneud cais amdano nawr, hyd yn oed os yw mewn sector hollol wahanol. - Felly, ysgrifennwch restr o'r sgiliau a gawsoch mewn swyddi yn y gorffennol a'r hyn rydych chi wedi'u magu yn ystod eich seibiant o'ch gwaith, bydd hyn yn eich helpu i nodi unrhyw fylchau

Dewch i wybod mwy am fyd gwaith y presennol a'r dyfodol yng Nghymru ar Dyfodol gwaith yng Nghymru.

Gwella eich cyfleoedd gwaith

I ddod o hyd i'ch swydd neu gyfle hyfforddi perffaith, bydd angen i chi edrych yn y mannau cywir. Mae yna wahanol ffyrdd o ddod o hyd i gyfleoedd gwaith a hyfforddiant ac mae gwneud y mwyaf o'r rhain yn siwr o wella eich cyfleoedd cael swydd:

Byddwch yn barod i ymgeisio

Pan fyddwch yn dod o hyd i swydd neu gyfle hyfforddi yr hoffech wneud cais amdani, efallai y bydd angen i chi fod yn barod i anfon eich CV, llenwi ffurflen gais, a gobeithio mynd i gyfweliad.

Edrychwch ar Cael swydd i gael gwybodaeth a chefnogaeth i adeiladu CV, ysgrifennu cais, llythyrau a negeseuon e-bost a thechnegau cyfweld.

Byddwch yn agored i ailhyfforddi

Gallai olygu y bydd yn rhaid i chi ailhyfforddi. Mae yna lawer o sefydliadau sy'n gallu cynnig cyfleoedd hyfforddi mewn gwahanol swyddi.

Edrychwch ar y cyrsiau sydd ar gael yng Nghymru - Cyrsiau yng Nghymru.

Bod yn ymwybodol o gyllid

Yn dibynnu ar eich sefyllfa bersonol, gall dychwelyd i'r gwaith neu i hyfforddiant:

  • Effeithio ar unrhyw fudd-daliadau y gallech fod yn eu hawlio
  • Golygu eich bod chi'n gymwys i hawlio budd-daliadau newydd
  • Allu cael cymorth ariannol gyda hyfforddiant

Edrychwch ar y Benefits calculators ar Gov.uk i ddarganfod unrhyw oblygiadau ariannol posibl. (dolen Saesneg)

Cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith i drafod eich sefyllfa ariannol.

Os ydych chi'n dilyn cwrs hyfforddi yna gallwch siarad â'r darparwr am y cymorth ariannol sydd ar gael.


Goresgyn rhwystrau

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai na fyddwch chi'n teimlo'n barod i ddychwelyd yn ôl i'r gweithle ar unwaith neu efallai y byddwch chi'n teimlo bod gennych rwystrau i’w goresgyn yn gyntaf. Gall enghreifftiau gynnwys (dolenni Saesneg):

  • Cofnod troseddol – mae yna sefydliadau i'ch helpu chi.

    Mae Nacro yn elusen cyfiawnder cymdeithasol cenedlaethol sydd â chyngor a gwybodaeth am ddatgelu cofnodion troseddol i gyflogwyr, sut mae gwahanol sectorau'n delio â chais gan bobl sydd â chofnodion troseddol a llawer mwy o gefnogaeth
  • Cyfrifoldebau gofal – mae cefnogaeth ar gael i'ch helpu i weithio neu hyfforddi wrth barhau i ofalu am eich teulu. Edrychwch ar rai gwefannau defnyddiol:

    Mae Carers UK yn elusen cenedlaethol ar gyfer gofalwyr a gallent gynnig cefnogaeth, cyngor a chyfarwyddyd i'ch helpu.
    Gall Gov.UK roi cyngor i chi am y gefnogaeth ariannol sydd ar gael i chi os oes gennych blant.

Beth bynnag fo'ch amgylchiadau gall Gyrfa Cymru gynnig cefnogaeth a chyfarwyddyd i chi i'ch cynorthwyo i gymryd eich camau nesaf i ddod o hyd i waith a hyfforddiant. Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau a'ch camau nesaf.

Edrychwch ar yr opsiynau

Cael Swydd

Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr a mwy.

Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill cymwysterau tra'n gweithio a chael cyflog. Dysgwch fwy am brentisiaethau, chwiliwch am swyddi gwag a mwy.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi


Gwirfoddoli

Gweld sut y gall gwirfoddoli gynyddu eich sgiliau, profiad a chyfleoedd gwaith tra rydych chi’n helpu eraill. 

Profiad gwaith

Profiad gwaith yw ennill profiad o fywyd gwaith. Cewch wybod sut mae cael y profiad gwaith sydd ei angen arnoch i gael y swydd rydych am ei chael.