Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Gweithio i ni

Amdanom ni

Mae Careers Choices Dewis Gyrfa Ltd (CCDG) yn is-gwmni a feddir gan Lywodraeth Cymru. Cyflwynwn gylch gwaith a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru sy’n cynnig y gwasanaeth Gwybodaeth Gyrfa, Cyngor ac Arweiniad (GGCA) yng Nghymru sydd i bob oedran, annibynnol, amhleidiol a dwyieithog.

Ein gweledigaeth yw y bydd holl bobl ifanc dod o hyd i gyflogaeth yn llwyddiannus ac i ysbrydoli oedolion i ganolbwyntio ar eu gyrfaoedd.


Buddion o weithio gyda ni

Mae ein staff o werth i ni ac rydym yn gweithio’n agos gyda’n hundeb llafur cydnabyddedig er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig termau ac amodau atyniadol.

 Mae’r rhain yn cynnwys:

  • 31 diwrnod gwyliau blynyddol
  • Amser-hyblyg
  • Pensiwn Cyfrannol
  • Cynllun Gofal Iechyd
  • Cynllun Disgowntiau i Weithwyr
  • Cynllun Seiclo i’r Gweithle
  • Cynllun Benthyciad Aberthu Cyflog
  • Cynllun Budd Car

Ein swyddi gwag cyfredol

Ewch i Safle Recriwtio Gyrfa Cymru am fanylion ein swyddi gwag. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a'n telerau ac amodau.

Gweld a gwneud cais am swyddi gwag


Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Ein Hymrwymiad i Degwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ystod y Broses Recriwtio

  • Rydym yn rhoi hysbysebion swyddi mewn cyfryngau hygyrch fel byrddau swyddi ar-lein a chyhoeddiadau arbenigol. Rydym hefyd yn defnyddio asiantaethau recriwtio. Rydym yn anfon hysbysebion swyddi i Citizens Compact ac rydym yn defnyddio cyhoeddiadau Cymraeg. Gwnawn ni hyn er mwyn cael y cyrhaeddiad gorau i gymunedau amrywiol ac anoddach eu cyrraedd. Mae hysbysebion swyddi hefyd yn cael eu rhoi ar Facebook a Twitter.
  • Mae manylion personol pob ffurflen gais yn cael eu tynnu cyn iddynt gael eu hanfon at y panel llunio rhestr fer. Mae hyn yn golygu na ellir gweld y biodata wrth lunio’r rhestr fer. Nid yw'r panel yn gweld eich enw, cyfeiriad nac unrhyw wybodaeth bersonol arall
  • Mae pob panel wedi'i hyfforddi yn y ffordd i drin rhagfarn ddiarwybod
  • Cedwir y Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ar wahân i'ch ffurflen gais ac nid yw eich enw arni.  Fe'i defnyddir ar gyfer monitro yn unig
  • Mae Gyrfa Cymru yn falch o ddefnyddio'r symbol Hyderus o ran Anabledd. Bydd pob ymgeisydd ag anabledd sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol yn hepgor y broses lunio rhestr fer. Os bodlonir y meini prawf hanfodol, byddant yn symud ymlaen i'r cam nesaf
  • Gofynnir i bob ymgeisydd swydd a oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnynt. Gallai hyn fod ar gyfer canolfannau asesu, profion neu gyfweliadau. Gall enghreifftiau gynnwys amser ychwanegol neu ofynion mynediad.
  • Rydym yn anfon y cwestiynau cyfweliad at ymgeiswyr 24 awr cyn y cyfweliad. Mae hyn er mwyn cefnogi niwroamrywiaeth a llesiant ymgeiswyr
  • Mae cymysgedd rhywiau ar bob panel
  • Gallwch wneud cais am swyddi yn Gymraeg neu yn Saesneg. Gall ymgeiswyr am swyddi ddewis cael cyfweliad neu ganolfan asesu yn Gymraeg neu yn Saesneg
  • Mae pob teitl swydd, gan gynnwys y rheini yn y Gymraeg, wedi'u gwirio i sicrhau eu bod yn niwtral o ran rhywedd
  • Mae'r holl ddisgrifiadau swydd yn hygyrch
  • Pan fyddwch chi'n dechrau gweithio, rydyn ni'n gofyn beth yw'ch hoff ragenwau personol. Bydd y rhain yn cael eu rhoi ar eich llofnod e-bost, os ydych yn dymuno hynny. Mae gennym fathodynnau rhagenw ar gyfer y rhai a hoffai wisgo un

Dogfen

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Polisi Cyflogaeth Foesegol Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..